14 July 2006

GŴR O FALLWYD (A Man from Mallwyd)


This article is in Welsh, first publshed in Y Blewyn Glas, the Welsh-language newspaper of the Dovey Valley in Mid-Wales. Mary Price, my Welsh tutor, interviewed me about running the marathon. Photo was taken at the finish of the London Marathon 2003.

Gwr o Fallwyd yn rhedeg ym Marathon Llundain.
Alexander Anichkin yn codi dros £1,850 i elusen Gofal Cancr Marie Curie

Bu aelodau y dosbarth Cymraeg sy'n cyfarfod yn y Tabernacl bob bore Llun yn llongyfarch un o'u cyddysgwyr ar ei lwyddiant yn cwblhau y Marathon yn Llundain Ddydd Syl, Ebrill 14eg 2002.

Dyma ychydig o hanes yr holi a fu.
Dechreuodd Alexander ymarfer tua'r Nadolig. Ond doedd o ddim ym ymarfer bob dydd achos mae'n bwysig cryfhau y cyhyrau yn raddol.

Rhaid oedd ymlacio un diwrnod. Yn gwmni iddo tra roedd o'r rhedeg trwy goedwig Dyfi i gyfeiriad Aberangell oedd ei gi ffyddlon Zoë. Roeddent yn cydredeg am 4 i 6 miltir.

Pam dwedwch chi mae rhywun yn penderfynu rhedeg chwe miltir ar hugain? meddai Alexander.

"Dw i'n licio rhedeg. Ron i'n licio rhedeg in yr Ysgol pan o'n i'n fachgen. Roedd bechgyn yn yr Ysgol dda iawn am chwarae gemau fel pêldroed a phêl fasged ond don i ddim yn dda iawn. Yna un tro fe gawson ni Fabolgampau as fe enillais i ras a meddyliais 'mae'na chwaraeon i fi!!

Ond och dwedodd y meddyg wrthyf 'Mae gennych chi gryd-cymalau a rhaid i chi beidio rhedeg byth eto. Dim ond beicio a nofio'.

Felly pan symudais i Gymru cefais archwiliad gan feddyg arall a dwedodd o "does gen ti ddim crydcymalau --- cyfod dy wely a rhodia" as felly i ffwrdd a fi. "Dw 'n credu mai'r peth pwysicaf yw dŵr meddal Cymru, mae o'n llesol iawn. Mae gormod o galch yn y dŵr yn Lloegr."

Wrth gwrs mae pawb sy'n rhedeg yn casglu nawdd tuag at ryw elusen. Dewisodd Alexander gasglu pres tuag at elusen gofal Cance Marie Curie oherrwydd bod ei fam wedi dioddef o'r cancr on wedi gwella. Cafodd ffrind iddo a fu farw o'r cancr gefnogaeth gan weithwyr Marie Curie a mawr yw gwerthfawrogiad ei weddw o'r gofal a gafodd ei gŵr.

Sut brofiad oedd rhedeg yn y Marathon?

"Grêt! Roedd yr awyrgylch yn fendigedig, y tywydd yn oer ond yn heulog - tywydd perffaith i redeg marathon. Roedd popeth wedi ei drefnu mor dda.

Roeddem wedi ein gosod mewn grwpiau o bobl oedd yn gallu rhedeg ar tua yr un cyflymder. Serch hynny roedd ambell un yn gwthio trwy'r dorf! Un o'r pethau mwyaf cofiadwy oedd gweld y teulu ar ôl rhedeg 24 miltir a chael eu cefnogaeth am y ddwy filtir olaf a gweld Vita sy'n 7 oed a Benedict sy'n 6 oed yn chwifio baneri y ddraig goch, y rhai a gawsant yn anrheg gan blant Ysgol Dinas Mawddwy. Roedd plant yr Ysgol wedi casglu £250 i'r gronfa.

"Mi orffenais i'r ras mewn 4 awr a 9 munud a 28 eiliad. Rod 32,000 yn rhedeg as fe orffenais i rhwng rhif 14,200 a 14,300 felly yn yr hanner uchaf."

Mae o eisoes wedi rhedeg yn y ras o gwmpas Llyn Tegid, pwy a ŵyr pa râs fydd nesa, --- rasio yn erbyn trên bach Tal-y-llyn neu rasio yn erbyn y ceffyl??? Mae rhyw sôn am redeg Marathon y flwyddyn nesa as efallai y bydd aelodau eraill o'r dosbarth awydd gwneud yr un peth!

Mae Alexander am ddiolch o galon i bobl Bro Ddyfi a phobl dalgylch Y Blewyn Glas am eu haelioni. I blant Ysgol Dinas Mawddwy, Bob Griffiths, Garej Mallwyd as i'w deulu a ffrindiau am bob rhodd a chefnogaeth.

No comments:

LinkWithin

Related Posts Plugin for WordPress, Blogger...